Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u gwrthod
Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i fyfyrwyr ofyn am i daliadau rhent gael eu gohirio tan ar ôl i'r benthyciad i fyfyriwr gael ei dalu.
Fel myfyriwr, rwyf wedi cael bod darparwyr llety preifat yn gofyn am symiau mawr o arian ar adegau rhyfedd, ac y bydd llawer o deuluoedd a myfyrwyr yn cael trafferth talu’r symiau hyn cyn iddynt gael eu benthyciadau i fyfyrwyr. Rwy’n credu y dylai pethau newid, i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael mynediad i’r brifysgol a’r llety ar gyfer hynny heb orfod defnyddio eu cynilion i gyd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi