Deiseb Ailgyflwyno'r afanc i Gymru i helpu i leihau llifogydd, glanhau ein hafonydd a chefnogi bioamrywiaeth!

Yr afanc yw'r anifail pwysicaf, a oedd yn arfer bod yn frodorol i Gymru, sy’n gallu creu tirweddau sy'n gwarchod ein planhigion a'n hanifeiliaid brodorol yng Nghymru.

Maent hefyd yn arbed arian i drethdalwyr mewn costau trin dŵr a chostau rheoli llifogydd.

Cafodd yr afanc ei hela i ddifodiant ac mae dyletswydd arnom i’w ddychwelyd i'n hafonydd. Bydd effeithiau afancod yn gwella ansawdd dŵr, yn lleihau llifogydd ac yn helpu i droi glannau ein hafonydd yn ôl i fod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae'n bryd rhoi cartref i afancod yng Nghymru!

Rhagor o fanylion

Mae'r adroddiad diweddar, "Perceptions of Eurasian Beavers Living Wild in Wales: Results of an online public survey" gan Brifysgol Caerwysg wedi nodi bod mwyafrif uchel o'r cyfranogwyr wedi cefnogi cael afancod yn byw yn wyllt yng Nghymru (88.7%).

Mae afancod yn cael eu galw’n beirianwyr byd natur. Maent yn gwneud newidiadau i'w cynefinoedd sy'n creu gwlyptiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.

Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu a rhoi'r golau gwyrdd i ailgyflwyno'r rhywogaeth eiconig a phoblogaidd hon.

Llofnodi’r ddeiseb hon

138 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon