Deiseb a wrthodwyd Mynd i’r afael â’r diffyg milfeddygon brys lleol yng nghefn gwlad Cymru
Yn ardaloedd gwledig Cymru, mae’n amlwg bod diffyg gofal brys y tu allan i oriau arferol i anifeiliaid anwes. Gwelir hyn yn arbennig ar Ynys Môn, lle mae’n cymryd o leiaf 40 munud i yrru i’r gwasanaeth y tu allan i oriau arferol agosaf. Hyd yn oed wedyn, mae’r ffioedd am driniaeth frys yn £236.00 o leiaf, a hynny am wasanaeth ymgynghori yn unig.
Rhagor o fanylion
A. Pwy all ddisgwyl cael anifail anwes sy’n sâl neu wedi’i anafu i deithio mor bell a goroesi’r daith?
B. Os na allwch chi deithio neu os nad oes gennych chi eich ffordd eich hun o deithio, bydd y canlyniad yn waeth fyth i’ch anifail anwes annwyl.
C. Ni fyddai’r mwyafrif o bobl mewn sefyllfa i allu fforddio ffi ymgynghori o’r fath wrth ddioddef poen y posibilrwydd o golli aelod o’r teulu, heb sôn am geisio cyrraedd yno yn y lle cyntaf.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi