Deiseb Rhoi terfyn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofi ar anifeiliaid a chyfeirio arian at dechnolegau modern sy’n berthnasol i bobl

Cafodd anifeiliaid eu defnyddio dros 39,000 o weithiau yng Nghymru yn 2022, sy’n gynnydd o gymharu â 2021. Fodd bynnag, mae arolygon barn yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn erbyn ymchwil anifeiliaid, gan ffafrio technolegau newydd. (South Wales Argus, mis Ebrill 2021)

Mae pedair prifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, ac Abertawe) yn cynnal astudiaethau ar anifeiliaid. Ac eto, mae Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ymchwil Feddygol (adroddiad ymchwiliad 2023) yn annog Llywodraeth Cymru i gynyddu ei chyllid ar Ymchwil gysylltiedig ag Ansawdd i brifysgolion a chreu cymhelliant i’r sector er mwyn cronni buddion economaidd.

Rhagor o fanylion

Dylai ehangu ymchwil feddygol heb graffu ar sut mae’r arian yn cael ei wario fod yn destun pryder i bobl Cymru, gan mai trethiant yn bennaf sy’n talu am ymchwil a ariennir yn gyhoeddus. Mae angen buddsoddi mewn gwyddoniaeth arloesol megis systemau organ ar sglodyn, bioargraffu 3D a modelu cyfrifiadurol. Y technolegau hyn, sy'n seiliedig ar fioleg ddynol, a fydd yn gallu rhoi hwb i'r economi, cryfhau'r GIG a chyflawni ar gyfer cleifion. Ar wahân i’r dioddefaint maent yn ei achosi, mae astudiaethau ar anifeiliaid yn annibynadwy ac yn gostus, gan rwystro cynnydd meddygol yn hytrach na’i hyrwyddo.

O ystyried addewid maniffesto Llywodraeth Lafur i bartneru â gwyddonwyr, y diwydiant, a chymdeithas sifil i weithio tuag at ddileu profion ar anifeiliaid yn raddol, mae i’w weld yn gyfle delfrydol i foderneiddio ymchwil yng Nghymru. Drwy graffu ar sut mae ei chyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio a chyfeirio arian at ddulliau sy’n berthnasol i bobl, gall Llywodraeth Cymru osod esiampl ac annog y diwydiant a’r sector elusennol i’w dilyn yn hynny o beth.

Llofnodi’r ddeiseb hon

777 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon