Deiseb a wrthodwyd Troi ffyrdd ymuno Cyffordd 41 yr M4 yn lonydd
Mae tagfeydd yn ffurfio wrth Gyffordd 41 yr M4 yn ystod yr oriau brig, oherwydd bod y ffyrdd ymuno mor hen. Mae pobl yn arafu i tua 30mya ar y ffordd sy’n ymuno â’r draffordd. Mae hynny’n arafu’r ceir sydd eisoes ar y draffordd, ac mae hynny yn ei dro yn peri i’r holl geir eraill arafu.
Byddai troi’r ffyrdd hyn yn lonydd drwy gael gwared ar y llain galed rhwng Cyffordd 41 ar y ddwy ochr yn atal hyn rhag digwydd ac yn helpu’r traffig i lifo’n well o lawer. Er enghraifft, mae hyn eisoes yn digwydd wrth Gyffordd 43.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi