Deiseb Rhoi statws ffioedd cartref i fyfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) ar ôl tair blynedd o breswylio
Mae’r fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor), a lansiwyd ym mis Ionawr 2021 yn sgil y Gyfraith Diogelwch Cenedlaethol yn Hong Kong, yn cynnig llwybr i bobl o Hong Kong ddod yn ddinasyddion y DU. Ers hynny, mae llawer o bobl sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) a’u dibynyddion wedi symud i’r DU, gan gynnwys Cymru. Er bod Llywodraeth y DU yn dweud bod y fisa hon yn arwydd o’i hymrwymiad hanesyddol a moesol i bobl Hong Kong, mae’r broses o gategoreiddio myfyrwyr sydd â’r fisâu hyn fel myfyrwyr rhyngwladol yn tanseilio hynny, gan eu bod yn wynebu ffioedd dysgu uwch a rhwystrau ariannol i’w haddysg.
Rhagor o fanylion
Yma yng Nghymru, gall y Senedd wneud mwy i greu amgylchedd croesawgar i bobl o Hong Kong. Yn yr Alban, mae myfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Cenedlaethol Prydeinig (Dramor) yn cael statws ffioedd cartref ar ôl tair blynedd o breswylio. Serch hynny, yng Nghymru (a gwledydd eraill y DU), dim ond ar ôl pum mlynedd o breswylio yma y bydd myfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gael statws ffioedd cartref – pan ystyrir eu bod yn breswylwyr ‘sefydlog’. Mae gan y Senedd y pŵer i ganiatáu eithriadau i grwpiau fel myfyrwyr o Afghanistan a Wcráin, ac rydym yn annog yr un peth i fyfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor).
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i drefnu i fyfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) gael statws ffioedd cartref ar ôl tair blynedd o breswylio, neu fabwysiadu mesur mwy blaengar. Ar hyn o bryd, er bod y ffioedd cartref yng Nghymru wedi’u capio ar lefel o £9,000 y flwyddyn, gall ffioedd rhyngwladol, a bennir gan brifysgolion, fod ddwywaith yn fwy na hynny, neu’n fwy fyth, gan greu baich ariannol sylweddol. Heb fynediad at gyllid myfyrwyr yn sgil y rheol “statws preswylydd sefydlog”, mae llawer o fyfyrwyr sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) yn wynebu rhwystrau anorchfygol o ran cael mynediad at addysg uwch.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd