Deiseb Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, dylid cyflwyno Synthesis Cread wedi’i Ddylunio’n Ddeallus i Faes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y Cwricwlwm i Gymru

Bydd arsylwi gweledol craff yn cadarnhau bod yr holl fywyd ar ein planed yn hynod gymhleth, a bod angen dau ryw ar rywogaethau yn gyffredinol ar gyfer atgenhedlu. Ni allai hyn oll ddeillio o broses ddiarweiniad, amhersonol. Ym meddwl, neu farn, llawer o wyddonwyr, nid yw esblygiad/ymgenhedliad neo-Darwinaidd yn cael ei ategu gan y dystiolaeth, a dylid ei ailwerthuso.

Rhagor o fanylion

Ers 1665 (Robert Hook), mae ymchwil wyddonol gyda microsgopau wedi dangos bod pob peth byw (creaduriaid a phlanhigion) yn cynnwys celloedd bach, sef unedau sylfaenol bywyd. Cynhyrchir pob cell gan gelloedd sydd eisoes yn bodoli (Rudolf Virchow 1855) ac mae angen arnynt lawer iawn o wybodaeth a deallusrwydd: maent yn fwy cymhleth na ffôn symudol. Ym meddwl, neu farn, llawer o wyddonwyr, mae'r celloedd byw hyn yn dangos bod rhaid i bopeth gael ei ddylunio yn ôl cynllun ar gyfer bywyd unigol a bywyd cyfun mewn amgylchedd lle mae 'popeth yn ei le'. Felly, mae'n wyddonol briodol dysgu i blant fod ein byd wedi cael ei ddylunio a'i greu yn ddeallus.

Llofnodi’r ddeiseb hon

19 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon