Deiseb Rydym yn teimlo y dylai fod Refferendwm cyn i 36 o aelodau ychwanegol ymuno â’r Senedd
Mae’r Senedd yn costio llawer o arian. Mae Awdurdodau Lleol yn wynebu trafferth ariannol. Nid ydym yn teimlo y dylai rhagor o arian gael ei wastraffu ar Aelodau o’r Senedd gan fod angen gwella’r GIG, Addysg a Gofal Cymdeithasol.
Rhagor o fanylion
Nid oes gan Awdurdodau Lleol ddigon o arian i ddarparu gwasanaethau.
Nid oes diwedd i restrau aros.
Mae ar yr henoed angen y gwelyau mewn ysbytai oherwydd diffyg cartrefi gofal a gofalwyr.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd