Deiseb a gaewyd Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig bod yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli yn cael ei hisraddio i wasanaeth 12 awr yn hytrach na gwasanaeth 24 awr.
Rhagor o fanylion
Llanelli yw’r boblogaeth drefol fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ac un o'r rhai mwyaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac felly mae angen mynediad 24 awr, fan leiaf, i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip.
Os bydd llai o wasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, bydd mwy o bobl yn troi at y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai yn Nhreforys a Glangwili, gan arwain at amseroedd aros hwy yn y ddau leoliad.
Nid yw'n dderbyniol i'r bwrdd iechyd leihau'r gwasanaeth hwn i ddim ond 12 awr y dydd (8am - 8pm).
Er mwyn sicrhau bod pobl Llanelli yn cael mynediad at y driniaeth feddygol y maent yn ei haeddu ac i atal gorlenwi’r adrannau damweiniau ac achosion brys cyfagos, ni ddylid caniatáu i'r newid hwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip fynd rhagddo.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar benderfyniad y Bwrdd Iechyd ac atal y newid hwn rhag digwydd yn Llanelli, er mwyn diogelu a chynnal gwasanaeth mân anafiadau 24 awr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod