Deiseb Atal Camddefnyddio Athrawon Cyflenwi a Chynyddu Cyllid ar gyfer Addysg yng Nghymru

1. Camddefnyddio Athrawon Cyflenwi:
Yn aml, mae athrawon cyflenwi yn cyflawni rolau Cynorthwywyr Addysgu neu Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yn lle rolau addysgu.
Mae hyn:
• Yn dibrisio eu cymwysterau.
• Yn lleihau’r staff addysgu sydd ar gael.
• Yn cyfyngu ar y cymorth arbenigol i ddisgyblion sydd ag anghenion ychwanegol.

2. Toriadau yn y Gyllideb Addysg:
Yn 2023, cafodd dros £100 miliwn ei dynnu o gyllideb addysg Cymru, felly roedd rhaid i ysgolion leihau staff ac adnoddau gan roi rhagor o bwysau ar addysgwyr a myfyrwyr fel ei gilydd.

Rhagor o fanylion

Mae’r system addysg yng Nghymru yn dioddef oherwydd toriadau yn y gyllideb a phroblemau staffio:

1. Toriadau yn y Gyllideb Addysg: cafodd dros £100 miliwn ei dynnu yn 2023, sydd wedi effeithio ar staff ac adnoddau, ac ar athrawon a myfyrwyr [TES](https://www.tes.com/magazine/news/general/welsh-government-cut-education-language-budget) [GOV.WALES](https://www.llyw.cymru/gostyngiadau-yng-nghyllideb-addysg-cyn-16-2024-i-2025-chyfuno-grantiau-asesiad-effaith-html).

2. Camddefnyddio Athrawon Cyflenwi: Mae athrawon cyflenwi yn cael eu defnyddio i gyflawni rolau Cynorthwywyr Addysgu neu Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yn lle rolau addysgu, sy’n tanseilio eu cymwysterau [TES](https://www.tes.com/magazine/news/general/welsh-government-cut-education-language-budget) [ITV](https://www.itv.com/news/wales).

3. Effaith ar Fyfyrwyr: Mae’r heriau hyn yn arwain at ddosbarthiadau mwy o faint a llai o gymorth i ddisgyblion sydd ag anghenion ychwanegol [ITV](https://www.itv.com/news/wales)

Llofnodi’r ddeiseb hon

42 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon