Deiseb a wrthodwyd Diogelu’r amgylchedd ac arbed arian drwy leihau'r angen am wybodaeth ac arwyddion dwyieithog
Yn sgil y ffaith bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cwtogi ym maes gofal iechyd ac addysg, a chan gynghorau lleol, byddai modd gwneud arbedion sylweddol drwy leihau'r gwaith papur a’r arwyddion sy'n gorfod cael eu hargraffu'n ddwyieithog, a hynny’n ddiangen.
Gan fod pob siaradwr Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg, a chan fod lefelau llythrennedd mor wael ar hyn o bryd, gallai’r arian sy’n cael ei wastraffu ar waith papur ac arwyddion gael ei wario ar wasanaethau hanfodol ym maes gofal, iechyd, addysg a darpariaeth leol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi