Deiseb a wrthodwyd Stopio gwastraffu arian trethdalwyr i gyflogi timau diogelwch tocynnau trên ar gyfer Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn talu £793,000 y flwyddyn i Transport Investigations Limited (contractwr allanol) i ddarparu arolygwyr diogelu refeniw i sicrhau bod gan deithwyr docynnau trên dilys.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ennill tua £80,000 y flwyddyn o docynnau cosb a dirwyon tocynnau.
Mae hyn yn golygu bod Trafnidiaeth Cymru yn gwario tua 10 gwaith cymaint ag y mae’n ei ennill yn ôl ar y broses hon. Mae'n wastraff o gannoedd o filoedd o bunnoedd o arian trethdalwyr ar weithwyr sy'n gwneud dim byd ond edrych ar ôl swyddogion tocynnau a pheri gofid i deithwyr.

Rhagor o fanylion

Rhoddwyd y niferoedd ariannol hyn gan Trafnidiaeth Cymru mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, ar 14 Hydref 2024: https://www.whatdotheyknow.com/request/cost_of_revenue_protection_and_t/response/2791730/attach/html/2/Response%20238%2024.pdf.html.

Mae'r arolygwyr diogelu refeniw yn mynd ar y trên mewn grwpiau o dri neu fwy, yna’n cerdded drwy’r trên yn gofyn i wirio tocynnau pobl yn union fel y byddai swyddog tocynnau yn ei wneud. Nid oes angen tri aelod ychwanegol o staff ar gyfer y swydd hon, gan fod swyddogion tocynnau eisoes yn gwneud hynny.
Mae'n wastraff arian ac nid yw'n cyflawni unrhyw bwrpas heblaw am wneud i deithwyr deimlo eu bod yn cael eu herlid.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi