Deiseb Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY.

Dros y misoedd diwethaf, bu llawer o drafod ynghylch y term Darpariaeth Gyffredinol. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau clir o ran ystyr y term hwn. Eto, er gwaethaf yr eglurhad hwn, mae Awdurdodau Lleol ac aelodau o Lywodraeth Cymru yn parhau i ganiatáu i’r term hwn gael ei ddefnyddio i wrthod statws ADY i ddysgwr a darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol. Gall fod un ateb yn unig a hynny yw i’r defnydd o’r term hwn gael ei wahardd.

Rhagor o fanylion

Tra bo aelodau o Lywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r term hwn wrth drafod ADY, gan gynnwys yn ystod cyfweliadau i’r cyfryngau, mae’n rhoi cyfle i Awdurdodau Lleol wneud yr un peth, a pharhau i wrthod ADY i ddysgwyr.
Mae gwaith parhaus drwy’r ymchwiliad i ddiwygiadau addysg a’r Pwyllgor PPIA, ond mae materion parhaus gyda theuluoedd sy’n codi sy’n dangos anghysondebau ymysg awdurdodau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

891 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon