Deiseb a wrthodwyd Cael gwared ar ganiatâd cynllunio ar gyfer Pympiau Gwres o'r Aer trwy eu gwneud yn ddatblygiadau a ganiateir

Yng Nghymru, mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer lleoli Pympiau Gwres o'r Aer os cânt eu lleoli 3 metr neu lai o ffin. Yn Lloegr, os cânt eu lleoli 1 metr neu fwy o ffin, fe'u hystyrir yn ddatblygiadau a ganiateir. Mae pympiau gwres yn rhan hanfodol o ddatgarboneiddio gwresogi cartrefi. Mae cyfraith Cymru yn cosbi'r rhai mewn tai teras a thai pâr drwy wneud iddynt dalu am ganiatâd cynllunio a wynebu’r risg y caiff y cais ei wrthod. Cynigiaf i’r gyfraith gael ei chysoni â Lloegr a gwneud Pympiau Gwres yn ddatblygiad a ganiateir.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi