Deiseb a wrthodwyd Mae Bwrdd Pobl Ifanc GISDA yn cynnig cyflwyno tocynnau bws am ddim i bobl ifanc 25 oed a iau.
Mae trafnidiaeth yn gost enfawr i bobl ifanc, yn arbennig pobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol, digartref neu sy’n ddibynnol ar Gredyd Cynhwysol neu debyg. Mae llawer o bobl ifanc rydym yn eu cefnogi yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, mynychu apwyntiadau neu weld teulu a ffrindiau.
Rhagor o fanylion
Mae GISDA yn elusen sy'n cefnogi pobl ifanc bregus a/neu digartref ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn gyfarwydd iawn â’r heriau sy’n eu hwynebu mewn ardaloedd dinesig, trefol neu fwy anghysbell.
Mae cost gwersi gyrru yn rhwystr i bobl ifanc, yn enwedig oherwydd bod nifer ar gytundebau rhan amser/sero awr, ac yn cael eu talu isafswm cyflog. Yn ogystal, gyda 17% o holl allyriadau carbon Cymru yn dod o drafnidiaeth, mae cyfle yma i hybu trafnidiaeth gwyrdd. Mae darparu teithio am ddim yn cyd-fynd ag ymyriadau’r llywodraeth i gynyddu ymgysylltiad pobl ifanc, addysg a chyflogaeth. Rydym yn barod yn hyrwyddo’r tocyn teithio sydd yn arbed traean o bris siwrne. Mae'r tocyn teithio wedi bod yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond mae angen i’r Llywodraeth fynd ymhellach er mwyn lleihau rhwystrau i bobl ifanc. Fel rhan o’u cynllun i wneud yr Alban yn wlad decach a fwy gwyrdd, fe gyflwynwyd docynnau teithio am ddim i bobl ifanc 5 - 21 oed. Rydym yn galw i ddilyn yr esiampl, ac i fynd ymhellach , gan gynnwys pobl ifanc o dan 25.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf
381 llofnod
Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd
349 llofnod
Roedd dadl ar y pwnc yn gynnar ym mis Hydref.
https://www.senedd.tv/Meeting/Archive/ba967501-0f51-4f93-bb85-c47d4665db56?autostart=True
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi