Deiseb Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot.

Mae UNSAIN Castell-nedd Port Talbot yn gofyn am ddyrannu arian y mae mawr ei angen i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddiogelu gwasanaethau, amddiffyn swyddi, a chadw cymunedau'n ddiogel. Heb yr arian ychwanegol hwn bydd yn rhaid i Gyngor Castell-nedd Port Talbot wneud penderfyniadau ar wasanaethau statudol ac anstatudol, er enghraifft cau llyfrgelloedd, gwasanaethau ieuenctid, amwynderau cyhoeddus, a hefyd diswyddo staff yn orfodol.

Rhagor o fanylion

Bydd yr holl gyllid ychwanegol a ddyrennir i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi’r bobl ddifreintiedig sy’n byw yn yr ardal y mae’r swyddi a gollwyd yn TATA Steel wedi effeithio arnyn nhw. Mae'r Undebau Llafur a'r Cyngor Lleol yn gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol i amddiffyn y gweithlu a bydd unrhyw refeniw ychwanegol yn cynorthwyo partneriaethau ymhellach yn y cyfnod ofnadwy hwn.

Llofnodi’r ddeiseb hon

346 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon