Deiseb Rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi cynllun i ddod â’r holl addysgu israddedig ar ei champws yn Llanbedr Pont Steffan i ben erbyn mis Medi 2025, sef penderfyniad a fyddai’n dileu bron i 200 mlynedd o ran rôl Llanbedr Pont Steffan fel canolfan addysg uwch, ac yn effeithio’n andwyol ar y gymuned leol. Fel cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr, a chefnogwyr, rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i ddiogelu etifeddiaeth Llanbedr Pont Steffan, ac ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y campws hanesyddol hwn.

Rhagor o fanylion

Mae Llanbedr Pont Steffan nid yn unig yn sefydliad prifysgol hynaf Cymru ond hefyd yn biler yn ei hanes addysgol a diwylliannol. Drwy ganiatáu i addysgu israddedig ddod i ben, byddai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn tanseilio hanfod cenhadaeth Llanbedr Pont Steffan, yn gwanhau’r economi leol, ac yn dileu ei rôl hanesyddol fel canolfan addysgu. Mae tref Llambed, cymuned y cyn-fyfyrwyr, a phobl Cymru yn haeddu gwell.
Ein nod:
Rydym yn annog Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i atal y terfyn arfaethedig ar addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn lle hynny i weithio gyda’r holl randdeiliaid i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer y campws. Rhaid i hyn gynnwys buddsoddiad sylweddol mewn cyrsiau newydd, mewn marchnata, ac mewn ymdrechion i recriwtio myfyrwyr er mwyn sicrhau perthnasedd ac apêl Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3,207 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon