Deiseb a gaewyd Caniatáu i Fagloriaeth Cymru fod yn gwrs dewisol ar gyfer myfyrwyr addysg bellach.
Mae Bagloriaeth Cymru yn bwnc gorfodol mewn llawer o ddosbarthiadau chweched dosbarth, colegau, a ffynonellau addysg bellach eraill. Dylai addysg bellach fod yn bynciau a chyrsiau y mae’r myfyrwyr eu hunain yn eu dewis, gan eu bod wedi dewis aros mewn addysg a dylent gael dewis yr hyn y maent yn ei astudio.
Rhagor o fanylion
Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau i ysgolion fel y gall pob disgybl ddewis a ydynt am astudio Bagloriaeth Cymru ai peidio. Mae gormod o ysgolion a cholegau yng Nghymru nad ydynt yn gadael i ddisgyblion ddewis.
Caewyd i lofnodion newydd
Caiff penderfyniad ei wneud yn fuan i gyfeirio neu wrthod y ddeiseb hon – caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.