Deiseb Gwneud calendr y Senedd yn haws i’w ddeall - gwneud gwleidyddiaeth Cymru yn fwy hygyrch
Gall fod yn anodd i rai ddeall calendr y Senedd, wrth edrych ar ba eitemau sy’n dod dan y Cyfarfod Llawn, mae cyfeiriadau at reolau sefydlog a llawer o lincs i dudalennau gwahanol ar gyfer un eitem. Os ydych yn newydd i wleidyddiaeth, efallai y bydd deall yr holl wybodaeth hon a cheisio cael barn fwy gwybodus am wleidyddiaeth Cymru yn teimlo’n frawychus.
Dylai’r Senedd ddiweddaru ac ailgynllunio’r dudalen we hon mewn fformat mwy hygyrch a dealladwy, megis calendr Senedd y DU.
Rhagor o fanylion
Gwefan Calendr y Senedd: https://busnes.senedd.cymru/mgCalendarWeekView.aspx?M=11&WN=47&CID=0&C=-1&MR=0&DL=0&ACT=Later&DD=2024
Mae calendr y Senedd yn cynnwys digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, ond mae’r digwyddiad ar gyfer eistedd y Senedd, trafod deddfwriaeth, a phleidleisiau’n dod dan y Cyfarfod Llawn. Mae’r eitemau dan y Cyfarfod Llawn yn defnyddio termau ac iaith a allai fod yn ddryslyd ac yn anodd eu deall heb brofiad blaenorol.
Gwefan Calendr Senedd y DU: https://whatson.parliament.uk/commons/2024-11-26/
Yn wahanol i galendr y Senedd, mae calendr Senedd y DU yn llawer mwy hygyrch ac wedi’i ddylunio’n dda. Mae’n rhannu busnes Tŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, a’r pwyllgorau.
Mae busnes Tŷ'r Cyffredin yn nodi manylion penodol Biliau Rheol Deg Munud (deddfwriaeth yr hoffai cynghorwyr y meinciau cefn ei chyflwyno a’i thrafod), Biliau Aelod Preifat, Cwestiynau Llafar i Weinidogion y Llywodraeth, a Deddfwriaeth, ynghyd â chysylltiadau cryno â biliau arfaethedig, nodiadau esboniadol a gwelliannau.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd