Deiseb Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth
Mae'r cynigion diweddar ar gyfer treth twristiaeth yng Nghymru yn gynllun gwael ar gyfer cynhyrchu refeniw i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.
Mae hyn yn ddrwg i fusnesau ac yn groes i fwriad y cynigion gan y bydd unrhyw ardoll twristiaeth yn arwain at lai o dwristiaid yn dod i Gymru ar wyliau a llai o dreth yn cael ei chynhyrchu i'r llywodraeth.
Llofnodwch y ddeiseb hon er mwyn dangos i'r Ysgrifennydd Cyllid anfodlonrwydd y cyhoedd â’r cynlluniau hyn a luniwyd yn fras.
Rhagor o fanylion
Fel y mae’r cynnig ar hyn o bryd, byddai tâl o £1.25 fesul person (gan gynnwys plant) sy’n aros dros nos mewn gwesty mewn cyngor sy’n cymhwyso’r tâl hwn yn dod i gyfanswm o £25 ar gyfer teulu o 4 sy’n aros am 5 noson.
Gan ychwanegu hyn at y gost ar gyfer llety, ffioedd parcio, bwyta allan a chostau teithio, byddai hyn yn gwneud Cymru yn gyrchfan gwyliau hyd yn oed yn llai deniadol na chyrchfannau cystal dros y ffin yn Lloegr lle nad oes polisi o’r fath yn cael ei weithredu.
Mae’n anochel y bydd hyn yn arwain at lai o ymwelwyr, llai o arian i fusnesau sy’n dibynnu ar dwristiaeth ac enw drwg cyffredinol a fydd yn dod i ran Cymru gan unrhyw un a oedd yn dymuno ymweld cyn hynny.
Mae'r ffaith bod Mr. Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn fwriadol anwybyddu pryderon yr adroddiad a luniwyd gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin y gallai cyflwyno treth o'r fath atal ymwelwyr yn dweud cyfrolau am ei ddallineb truenus ynghylch sut y gallai polisi o'r fath effeithio ar bobl sy’n gweithio.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd