Deiseb Rhoi i’r cyhoedd yr hawl i grwydro fel yn yr Alban.

Mae’r Alban wedi caniatáu’r hawl i grwydro fel y nodir yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003. Mae’r Ddeddf yn datgan bod gan bawb yn yr Alban yr hawl i fod ar y tir at ddibenion hamdden ac i groesi’r tir hwn at y defnyddiau a enwyd.

Mae Cymru yn wlad brydferth â Pharciau Cenedlaethol mynediad cyhoeddus a llawer o hawliau tramwy eraill. Fodd bynnag, mae ardaloedd eraill o harddwch naturiol eithriadol nad oes gan y cyhoedd fynediad iddynt.

Rhagor o fanylion

Pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno, gallai annog mwy o leiafrifoedd ethnig i ymweld â chefn gwlad heb deithio pellteroedd helaeth i ymweld â thir mynediad agored. Mae cefn gwlad Cymru yn llawn bywyd gwyllt yn y dirwedd amrywiol ac mae’r cyhoedd yn colli hynny.

Llofnodi’r ddeiseb hon

35 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon