Deiseb a gaewyd Cynnwys rygbi yn y cwricwlwm i Gymru o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.
Fel Hyfforddwr tîm rygbi dan 10 oed rwyf wedi profi a gweld yr effaith gadarnhaol y mae rygbi yn ei chael ar ddatblygiad chwaraeon, sgiliau cymdeithasol, llesiant meddyliol a sgiliau bywyd plant.
*Rwyf wedi sylwi yn ystod fy nghyfnod fel hyfforddwr mai ychydig iawn o ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n cynnig rygbi.
*Yn anffodus nid yw ysgolion yn blaenoriaethu rygbi ac yn aml mae'n ôl-ystyriaeth.
*Nid yw plant yn cael cyfle i ddatblygu angerdd am y gamp o oedran ifanc.
Rhagor o fanylion
Yn ogystal â’m pwyntiau uchod, credaf fod hyn yn cyfrannu at ddirywiad rygbi ar draws Gymru gyfan, ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau hynny.
Rwy'n angerddol iawn am rygbi a'r buddion y mae'n eu cynnig i blant, ac rwy'n credu y dylai fod yn rhan o'u haddysg gynradd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon