Deiseb Galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddol sy’n wynebu cleifion yng Nghymru
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod realiti’r argyfwng deintyddol yng Nghymru a’r effaith ar y cyhoedd.
Er bod deisebau wedi’u cyflwyno yn y gorffennol, nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi cyfaddef bod yna argyfwng, ac mae’n ymddangos i’r cyhoedd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.
Rhagor o fanylion
Ym mis Medi 2024, gwnaeth y Prif Weinidog, Eluned Morgan, honiad y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd ysbrydoliaeth o GIG Cymru ar ddeintyddiaeth, lle mae diwygiadau wedi datgloi bron i 400,000 yn fwy o apwyntiadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn sarhaus i’r bobl y mae’r argyfwng deintyddol yn effeithio arnynt, ac yn dangos y diffyg dealltwriaeth sydd wrth wraidd Llywodraeth Cymru o’r realiti y mae cleifion yn ei wynebu wrth geisio cael mynediad at ofal deintyddol y GIG.
Yn ddiweddar, datgelodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy na hanner yr holl achosion o ganser y geg bellach yn cael diagnosis ar y camau mwyaf datblygedig (gan godi bob blwyddyn). Gall mynediad amserol at apwyntiadau deintyddol rheolaidd helpu i ganfod arwyddion cynnar o ganser y geg.
Ni fydd modd canfod datrysiad nes bod Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod yna argyfwng deintyddol yng Nghymru.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod yna argyfwng deintyddol yng Nghymru ac yna i weithio i fynd i’r afael â’r broblem ar fyrder, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd