Deiseb Gweithredu gofyniad adnabod â llun ar gyfer pleidleisio cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Yn wahanol i lawer o wledydd eraill ar draws y byd ac Ewrop, mae Cymru yn y lleiafrif gan ei bod heb ofyniad adnabod ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau. Mae dogfen adnabod â llun yn ofynnol i bleidleisio mewn llawer o wledydd megis Iwerddon, yr Almaen, yr Eidal a Norwy.
O ran pleidleisio heb ddogfen adnabod, mae cynnydd anochel yn y risg o dwyll yn digwydd mewn etholiadau.
Mae’n hanfodol i ofyniad adnabod â llun fod ar waith i bleidleisio, gan fod rôl sylfaenol iddo wrth dystio mai dim ond y rhai sydd â hawl i bleidleisio a all wneud hynny.

Rhagor o fanylion

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld mwy o enghreifftiau o wledydd â gofynion adnabod ar gyfer pleidleisio, edrychwch ar y ddau linc isod ar gyfer rhagor o fanylion:
https://en.m.wikipedia.org/wiki/Voter_identification_laws
https://en.m.wikipedia.org/wiki/List_of_national_identity_card_policies_by_country

Llofnodi’r ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon