Deiseb Mandadu Trefn Labelu Bwyd Gynhwysfawr a Phenodol er mwyn Cefnogi Pobl sydd ag Anghenion Deietegol ac Alergeddau
Dychmygwch orfod mynd drwy eich bywyd gan wybod bob dydd y gallai un gegaid esgeulus beryglu eich iechyd chi neu iechyd rhywun agos atoch. Dyma’r realaeth y mae fy mab, a chymaint o bobl eraill ledled y byd, yn ei hwynebu. Mae ganddo alergedd difrifol i datws – cynhwysyn sydd yn aml yn cael ei guddio gan dermau annelwig fel "startsh" ar labeli bwyd, os yw’n cael ei labelu o gwbl.
Rhagor o fanylion
Mae diffyg labelu clir, penodol yn peri risg difrifol. Nid mater o gyfleustra yn unig yw hwn; mae'n ymwneud â diogelwch a'r hawl i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn yr ydym yn ei fwyta. Mae pob defnyddiwr yn haeddu gwybod yn union pa gynhwysion sydd yn ei fwyd.
Mae grymuso defnyddwyr drwy ddarparu gwybodaeth gywir iddynt nid yn unig yn amddiffyn y rhai sydd â chyfyngiadau dietegol, mae hefyd yn meithrin ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn y diwydiant bwyd.
Ymunwch â’n hymdrechion i eirioli dros newid. Llofnodwch y ddeiseb hon i fandadu trefn labelu bwyd fanwl a phenodol. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod bwyd yn fwy diogel ac yn fwy cynhwysol i bawb.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd