Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u gwrthod

Deiseb a wrthodwyd Gwrthdroi’r penderfyniad i wahardd meddyginiaeth atal y glasoed gan ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae hunaniaeth rhywedd yn ffactor gwarchodedig. Yn fy marn i, mae penderfyniad Wes Streeting a Llywodraeth Cymru i wahardd meddyginiaeth atal y glasoed i bob pwrpas i’r rhai o dan 18 oed yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth. Bydd y gwaharddiad hwn yn gwneud niwed aruthrol i’r rheini nad ydynt yn cydymffurfio â’r ddealltwriaeth ddeuaidd o rywedd, sydd wedi dyddio. Felly, gofynnaf ichi ystyried llofnodi.

Rhagor o fanylion

A minnau wedi gweithio, wedi darparu seicotherapi ac wedi bod yn rhan o’r gymuned LHDTCRhA+, mae gennyf bryderon difrifol am effaith y penderfyniad hwn. Mae cyfraddau hunanladdiad eisoes yn uchel yn y gymuned draws oherwydd gwahaniaethu, diffyg dealltwriaeth, ac ymdeimlad o gael eu gwrthod.

Cyn bod meddyginiaeth atal y glasoed ar gael, roedd rhaid i unigolion chwilio yn rhywle arall i gael hormonau i atal dyfodiad y glasoed. Ni fyddai’r hormonau hyn yn cael eu rheoleiddio yn yr un modd â meddyginiaeth y GIG, ac fe allent achosi niwed.

At hynny, pa neges sy’n cael ei rhoi i oedolion ifanc a glasoedion nad ydynt yn cydweddu â’u rhyw biolegol dynodedig?

Dylech wrthdroi’r penderfyniad anghyfreithlon hwn.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi