Deiseb a wrthodwyd Dylid ei gwneud yn orfodol i gynnyrch cig/llaeth gael eu labelu os defnyddir Bovaer mewn bwyd gwartheg.

Rydym ni fel defnyddywr cydwybodol yng Nghymru yn pryderu am yr achos dadleuol o Bovaer. Mae Arla wedi cyhoeddi ei rhan mewn treial, ac y bydd eu holl wartheg nad ydynt yn organig wedi cael Bovaer yn eu bwyd. Gall defnyddwyr weld yn glir pa rai yw cynnyrch Arla, a’r rhai nad ydynt yn rhai Arla. Yr hyn yw, Arla sy’n rheoli 40% o’r holl ddiwydiant llaeth gan gyflenwi llaeth, cig a chynnyrch llaeth i fwyafrif y prif archfarchnadoedd. Felly mae defnyddwyr ‘yn y niwl’ ynghylch pa rai o gynnyrch yr archfarchnadoedd eu hunain sydd wedi’u cyflenwi gan Arla.

Rhagor o fanylion

Dylai defnyddwyr yng Nghymru gael eu hysbysu o ychwanegion o’r fath i fwyd gwartheg, fel y gallant wneud dewis hyddysg, i brynu cynnyrch Arla ai peidio, drwy labelau yr archfarchnadoedd eu hunain.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi