Deiseb Diogelu a Chynyddu Cyllid ar gyfer ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl Hanfodol
Dim ond 9% o gyllideb GIG y DU sy’n mynd i iechyd meddwl. Nid yw hyn yn ddigon i wella cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl. Rwy’n eiriolwr iechyd meddwl a hoffwn weld iechyd meddwl yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol o ran pwysigrwydd. Fel rhywun a dreuliodd dros dair blynedd ar restr aros i weld seicolegydd ar gyfer therapi siarad, byddai wedi helpu mwy pe bai llai o bobl ar y rhestr aros, gan y byddwn wedi cael therapi siarad yn gynt.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd