Deiseb Dylid gosod paneli solar ar y ddaear wrth ochr ffyrdd a rheilffyrdd, mewn ardaloedd diwydiannol a thros feysydd parcio
Ystyr gweithredu o ran newid hinsawdd yw bod angen i ni leihau ein defnydd o ynni a defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy. Mae pŵer solar yn rhan o'r datrysiad.
Mae'r Almaen wedi mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i Gymru a'r DU fodd bynnag, ac wedi comisiynu astudiaethau i edrych ar osod paneli solar ar y ddaear wrth ochr ffyrdd a rheilffyrdd, mewn ardaloedd diwydiannol a hyd yn oed dros feysydd parcio. Mae'r astudiaethau hyn wedi nodi digon o dir addas i osod mwy na digon o adnoddau solar i gyrraedd targed yr Almaen o 215GW erbyn 2030.
Rhagor o fanylion
Yn y cyfamser, mewn ymdrech i gynyddu gallu pŵer solar ac i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu solar yn Ewrop, mae'r Undeb Ewropeaidd yn bwrw ymlaen â 'menter paneli to solar' a fydd yn gweld rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn orfodol i osod paneli solar ar unrhyw adeiladau cyhoeddus, adeiladau masnachol ac adeiladau preswyl newydd erbyn 2029.
Mae'n well gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, beidio â chyflwyno rheoliadau newydd a fyddai'n arwain at fod gan bob adeilad newydd yng Nghymru baneli solar. Mae hi hefyd o blaid gosod paneli solar ar y ddaear ar dir amaethyddol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth newydd i ddadansoddi’r opsiynau ar gyfer paneli solar wedi’u gosod ar y ddaear wrth ochr ffyrdd a rheilffyrdd, mewn ardaloedd diwydiannol a thros feysydd parcio, i weld a allwn gyrraedd ein targedau ynni solar drwy ddefnyddio’r ardaloedd hyn.
https://cleantechnica.com/2024/07/02/german-industry-embraces-rooftop-solar/
https://www.borntoengineer.com/solar-panels-a-requirement-on-all-new-eu-buildings
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd