Deiseb Achubwch Bwll Nofio Penfro - Gwella Nid Gwaredu

Mae perygl y caiff pwll nofio Penfro ei gau oherwydd bylchau ariannu enfawr ar gyfer darparu gwasanaethau yn Sir Benfro. Er ein bod yn cydnabod mai mater i Gyngor Sir Penfro yw hwn, mae'n amlygu'r angen am fwy o arian i gyrraedd cymunedau gwledig o'r Senedd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol, wedi’i neilltuo i uwchraddio ein gwasanaethau hamdden blinedig sy’n ganolbwynt cymdeithasol hollbwysig i’n holl gymunedau. Heb ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, mae'r bygythiad o gau yn gysgod drosom gyda phob ymgynghoriad cyllideb blynyddol.

Rhagor o fanylion

Suzie Clayton - rwy'n nofio sawl bore'r wythnos yn y pwll. Mae wedi cael budd cadarnhaol anhygoel ar fy llesiant corfforol a meddyliol. Mae hwylustod gallu nofio am 6am mor bwysig i mi. Pe bai'r pwll yn cau, byddai'n anodd cyrraedd Dinbych-y-pysgod neu Hwlffordd erbyn 6am.
Ni allaf gredu bod Cyngor Sir Penfro hyd yn oed yn ystyried ei gau
Sue Griffiths - mae'n ymddangos yn gywilyddus atal plant neu unrhyw un sy'n methu nofio rhag cael y cyfle i ddysgu.
Mae lle rydyn ni'n byw wedi'i amgylchynu gan y môr, heb sôn am afonydd a chwareli.
Rhaid cofio hefyd y gamp o nofio. Ble mae pobl i fod i fynd?
Peidiwch â mynd â'r pwll hwn i ffwrdd o'r gymuned.
Kelly Willis Thompson (elusen Forever 11) - ar ôl colli fy nai byddai hyn yn drychineb i gannoedd o blant. Mae angen i ni frwydro i gadw ein pwll.
Dan JT - mae pwll Penfro wedi bod yn gartref i Glwb Nofio Penfro a’r Cylch am 50 mlynedd, yn dysgu, ac uno pobl. Heb y pwll, ni fyddai hanes ein clwb wedi bod yn bosibl!

Llofnodi’r ddeiseb hon

424 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon