Deiseb Ailadeiladwch Arsyllfa Goll Caerdydd yn Amgueddfa Sain Ffagan "Creu stori Cymru gyda'n gilydd"
Yn drist iawn, ddiwedd yr ugeinfed ganrif, collwyd Arsyllfa Pen-y-lan, a oedd unwaith yn esiampl o ddarganfyddiad seryddol ac ymgysylltiad cymunedol yng Nghaerdydd. Mae’r ddeiseb hon yn cynnig ailadeiladu’r tirnod hanesyddol hwn yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, gan amlygu pwysigrwydd yr arsyllfa i dreftadaeth ddiwylliannol y ddinas a’i photensial i ysbrydoli cenedlaethau o seryddwyr y dyfodol.
Bu Arsyllfa Pen-y-lan, a oedd yn dirnod o’r oes Edwardaidd yng Nghaerdydd, yn arsyllfa gyhoeddus am ddegawdau, gan feithrin ymgysylltiad cymunedol a diddordeb gwyddonol. Roedd gwagle yn dilyn cau’r arsyllfa ym 1979, ond mae Cymdeithas Seryddol Caerdydd wedi cadw ei hysbryd yn fyw.
Rhagor o fanylion
Byddai ailadeiladu’r arsyllfa yn Amgueddfa Sain Ffagan:
- Yn anrhydeddu etifeddiaeth a chyfraniadau'r arsyllfa.
- Yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol drwy ddysgu ymarferol a digwyddiadau syllu ar y sêr.
- Yn darparu adnodd addysgol gwerthfawr ar gyfer seryddiaeth, hanes a gwyddoniaeth.
- Yn cyfoethogi treftadaeth ddiwylliannol ac yn meithrin ymgysylltiad cymunedol.
- Yn hyrwyddo addysg STEM yng Nghymru.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i gefnogi’r gwaith ailadeiladu hwn, gan alinio â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Dewch i ni ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Seryddiaeth Caerdydd yn 2026 drwy ailagor y tirnod eiconig hwn.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd