Deiseb Rydym yn galw am ddiwedd ar gyllid cyhoeddus pellach ar gyfer llwybrau beicio a seilwaith beicio yng Nghymru
Mae symiau sylweddol eisoes wedi’u cyfeirio at brosiectau beicio, a reolir gan sefydliadau fel Sustrans, drwy garedigrwydd Llafur Cymru. Er bod llwybrau beicio yn darparu buddion i ran fechan o'r boblogaeth, mae dyrannu'r cronfeydd hyn yn dod ar draul meysydd llawer mwy hanfodol, megis gofal iechyd ac addysg sy'n gwasanaethu'r boblogaeth ehangach. Credwn y dylid ailgyfeirio arian trethdalwyr i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol hyn sydd o fudd i bawb, nid prosiectau arbenigol.
Rhagor o fanylion
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2024, derbyniodd Sustrans (elusen) £3,879,376.26 gan Lywodraeth Cymru. Cyfeirnod: LLYW.Cymru
Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £38 miliwn mewn teithio llesol ledled Cymru, gan nodi’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwelliannau teithio llesol lleol yn y wlad. Cyfeirnod: Sustrans
At hynny, ym mis Tachwedd 2024, dyfarnwyd contract newydd i Sustrans Cymru i gyflawni rhaglen Teithiau Llesol Llywodraeth Cymru, gan barhau â’i waith i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru i deithio’n gynaliadwy ac yn egnïol. Cyfeirnod: Sustrans
Mae’r buddsoddiadau sylweddol hyn yn amlygu’r cyllid sylweddol a ddyrannwyd eisoes i’r seilwaith beicio a rhaglenni cysylltiedig yng Nghymru.
Mae buddsoddi mewn meysydd hollbwysig sy’n gwasanaethu’r boblogaeth ehangach yn hanfodol ar gyfer llesiant Cymru. Gadewch inni flaenoriaethu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i nifer fawr, nid nifer fach.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd