Deiseb Defnyddio’r Saesneg cyn (neu yn lle) y Gymraeg mewn negeseuon cyhoeddus pwysig yng Nghymru
Mae canlyniadau cyfrifiad 2021 yn dangos nad yw tua 80% o bobl Cymru yn gallu siarad Cymraeg.
Ac eto, mae gwybodaeth bwysig yn cael ei rhoi yn Gymraeg yn unig, er enghraifft:
- Gwybodaeth gwasanaeth cyhoeddus ar hysbysfyrddau yn Gymraeg yn unig,
- Arwyddion ffyrdd y gellir amrywio eu negeseuon yn Gymraeg yn unig,
- Hysbysebion teledu’r GIG ar sianeli teledu Saesneg yn Gymraeg,
- Opsiynau Cymraeg yn gyntaf mewn galwadau ffôn gwasanaeth cyhoeddus.
Mae rhoi blaenoriaeth i’r iaith nad yw 80% o’r wlad yn gallu ei deall yn yr achosion hyn yn beryglus. Dylid rhoi blaenoriaeth i’r Saesneg am resymau diogelwch.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd