Deiseb Gwrthod unrhyw bwerau statudol yng Nghymru i'r RSPCA (Cymru a Lloegr).
Eleni mae RSPCA (Cymru a Lloegr) yn 200 oed. Yn gyfreithiol, dim ond enw brand a ddefnyddir ganddynt yma yng Nghymru yw RSPCA Cymru. Fe’i sefydlwyd yn Lerpwl i ddwyn erlyniadau yn erbyn y rhai a oedd yn cam-drin bywyd gwyllt. I rai mae’r gymdeithas wedi cyflawni pethau da, ond i lawer mae ganddi lawer o arferion amheus ac mae wedi bod yn y penawdau dro ar ôl tro oherwydd hyn. Diolch i’r unigolion dewr sydd wedi dewis codi llais dros y degawdau. Mae'r Comisiynwyr Elusennau hefyd wedi lansio sawl ymchwiliad.
Rhagor o fanylion
Parhaodd un am chwe blynedd. Dywedodd adroddiad Wooler yn 2014 a gychwynnwyd oherwydd ei weithgarwch erlyn preifat: "The main weakness is the lack of accountability"... ac aeth ymlaen i ddweud, "The effect on the public is no less and arguably more serious in that they are subjected to unaccountable authority". Rwy'n meddwl ei bod yn werth nodi bod tebygrwydd cryf i Swyddfa'r Post ac RSPCA yn hyn o beth.
Gellid dadlau y cysylltir â’n Llywodraeth a’n Senedd mwy newydd oherwydd bod San Steffan ac yn benodol, ei Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) wedi diystyru dro ar ôl tro y dylid rhoi unrhyw bwerau iddynt. Ynghyd â'r gostyngiad mewn cyllid a brofir gan y rhai sydd â phwerau cyfreithlon mewn gwirionedd, gellid gweld y cyfiawnhad dros hyn. Mae gen i fantais unigryw oherwydd bûm yn Ymddiriedolwr cangen am dair blynedd, yn wirfoddolwr mewn canolfan anifeiliaid a redir yn genedlaethol am bump. Rwy’n teimlo’n gryf iawn dros hyn ac yn annog fy Senedd a'm Llywodraeth i wrthod hyn ar sail llesiant anifeiliaid.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd