Deiseb Ymrwymo i ymgynghoriad ar strategaeth ar gyfer bechgyn a dynion ifanc: Beth am roi Cymru ar y blaen
Mae angen eich help ar eich meibion a'ch brodyr.
Mae hunanladdiad ymhlith bechgyn 10-24 oed yng Nghymru ar gynnydd, ac mae gan Gymru y gyfradd uchaf yn y DU yn gyffredinol. Mae bechgyn ar ei hôl hi o ran llythrennedd ac addysg, ac mae 63% o hunanladdiadau dynion ifanc yn dod o gartrefi sydd heb fodel rôl gwrywaidd. Pan fydd bechgyn yn wynebu trais domestig, mae systemau cymorth yn aml yn eu methu, gan eu hystyried yn ‘risgiau’ yn hytrach na dioddefwyr. Mae naratifau anghywir yn gwadu'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu i fechgyn/dynion ifanc. Beth am ymrwymo i ystyried Strategaeth Bechgyn a Dynion Ifanc.
Rhagor o fanylion
Mae bechgyn a dynion ifanc yng Nghymru yn wynebu heriau ar draws sawl maes – addysg, iechyd meddwl, a lles cymdeithasol. Nid casgliad o frwydrau unigol yn unig yw hwn; mae'n adlewyrchu mater systemig sy'n galw am weithredu brys a chynhwysfawr.
Mae’r materion hyn yn effeithio ar deuluoedd, cymunedau, a dyfodol Cymru gyfan. Mae gan Gymru gyfle – a chyfrifoldeb – i arwain y DU drwy gymryd camau pendant ac ystyrlon.
Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru yn wlad lle mae pob bachgen a dyn ifanc yn cael y cymorth, y cyfleoedd a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
I gael ystadegau manwl a mewnwelediadau ar ddiffyg modelau rôl gwrywaidd, cyrhaeddiad addysgol, llythrennedd iechyd meddwl, perthnasoedd, trafodaeth ynghylch gwrywdod, trais domestig, a hunanladdiad, e-bostiwch bethan@boundlessboys.co.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gysylltu â gweithwyr proffesiynol, ymgynghori ag arbenigwyr, a chymryd camau diriaethol tuag at ddatblygu Strategaeth Bechgyn a Dynion Ifanc wedi'i thargedu.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd