Deiseb Apêl: Bil Awtistiaeth Cymru 2019 (I’r Nifer Fach, Nid y Nifer Fawr)
Gwrthododd mwyafrif yr Aelodau Llafur y Bil Awtistiaeth (Cymru), er ei botensial i wella bywydau pobl awtistig yn sylweddol. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt a blaenoriaethu hawliau ac anghenion unigolion awtistig.
Peidiwch â gadael i bobl awtistig gael eu hanwybyddu! Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wella eu bywydau. Llofnodwch nawr i fynnu newid a chefnogi hawliau unigolion awtistig.
Rhagor o fanylion
Roedd y Bil Awtistiaeth (Cymru) yn cynnig amddiffyniadau hollbwysig i bobl awtistig, gan gynnwys fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth, strategaeth awtistiaeth fandadol, ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Roedd y Bil yn cyd-fynd â’r Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, gan bwysleisio ymagwedd yn seiliedig ar hawliau at awtistiaeth.
Nid oes gan y Cod Ymarfer presennol y mecanweithiau gorfodi a'r cosbau penodol sydd eu hangen i sicrhau cydymffurfiaeth, gan adael unigolion awtistig yn agored i niwed. Mae gwrthod y Bil yn gadael bwlch sylweddol o ran diogelu hawliau pobl awtistig a mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y Bil Awtistiaeth (Cymru) a blaenoriaethu anghenion pobl awtistig. Drwy ddeddfu’r ddeddfwriaeth hon, gall Cymru ddangos ei hymrwymiad i gynhwysiant a llesiant ei holl ddinasyddion.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd