Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u gwrthod
Deiseb a wrthodwyd Gwella Cynllun Cymunedol Trelái a Chaerau ar gyfer Cymuned Gryfach – ACE
Diwygio Cynllun Cymunedol Trelái a Chaerau i ganolbwyntio ar chwaraeon ar lawr gwlad, cynaliadwyedd amgylcheddol, a thryloywder wrth ddosbarthu cyllid.
Mae Cynllun Cymunedol Trelái a Chaerau yn werthfawr ar gyfer mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd ein cymuned. Nod y ddeiseb hon yw gwella'r cynllun i wasanaethu trigolion Trelái a Chaerau yn well. Mae’n galw ar y Senedd i ystyried gwelliannau allweddol, gan ganolbwyntio ar chwaraeon ar lawr gwlad, cynaliadwyedd amgylcheddol, a thryloywder cyllid.
Rhagor o fanylion
Datblygodd arweinwyr cymunedol Gynllun Cymunedol Trelái a Chaerau, dan gadeiryddiaeth Jane Hutt AS, mewn ymateb i’r digwyddiadau ym mis Mai 2023. Er bod y cynllun yn ganmoladwy, mae meysydd lle gellir ei gryfhau ymhellach.
Yn gyntaf, nid oes gan y Cynllun Cymunedol adran benodol ar chwaraeon ar lawr gwlad, sy'n chwarae rhan hanfodol mewn meithrin llesiant corfforol a meddyliol, cydlyniant cymunedol, a datblygiad pobl ifanc. Yn ail, dylai'r Cynllun Cymunedol fynd i'r afael yn benodol â'r mater o foneddigeiddio. Gall y broses hon arwain at ddadleoli trigolion a chau mannau cyhoeddus, gan effeithio ar gydlyniant cymunedol. Yn olaf, er mwyn sicrhau atebolrwydd a pherchnogaeth gymunedol, mae system dryloyw ac effeithlon ar gyfer dyrannu cyllid yn hanfodol.
Mynegwn ein diolch i ACE am ei ymdrechion i ddarparu llwyfan ar gyfer lleisiau gwahanol a dod â grwpiau amrywiol at ei gilydd. Gall y gwelliannau hyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y gymuned, gan greu dyfodol mwy cynhwysol, cynaliadwy a llewyrchus i bawb.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi