Deiseb Dylid gosod teledu cylch cyfyng ar frys yng Ngorsaf Drenau'r Porth a'r bont

Rydyn ni’n gofyn am osod teledu cylch cyfyng ar frys yng Ngorsaf Drenau'r Porth a'r bont sy'n croesi'r traciau trên.

Mae'r ardal hon wedi dod yn fwyfwy adnabyddus am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac am grwpiau o unigolion yn bwlio ac yn bygwth plant ifanc, teithwyr, a thrigolion lleol. Mae adroddiadau wedi tynnu sylw at achosion o godi ofn, camddefnyddio sylweddau, fandaliaeth i siopau a thaflu brics at eiddo cyfagos.

Rhagor o fanylion

Mae hyn yn creu amgylchedd anniogel i'r rhai sy'n byw, yn gweithio neu'n teithio yn y cyffiniau.
Er gwaethaf pryderon a godwyd dro ar ôl tro gyda rhai a all orfodi’r gyfraith, ychydig o gynnydd sydd wedi’i wneud o ran mynd i’r afael â’r broblem gynyddol. O ganlyniad, mae trigolion a theithwyr yn teimlo'n agored i niwed a heb gefnogaeth. Mae diffyg camau diogelwch yn bryder i rieni, cymudwyr a’r gymuned ehangach.
Mae gosod teledu cylch cyfyng yng Ngorsaf Drenau’r Porth a’r bont yn gam hollbwysig er mwyn sicrhau diogelwch a lles trigolion a theithwyr. Byddai systemau teledu cylch cyfyng gweladwy, gweithredol yn atal ymddygiad troseddol ac yn arf ar gyfer gorfodi'r gyfraith ac adnabod ac erlyn troseddwyr.

Nid yw'r ddyletswydd gofal sy'n ddyledus i'r gymuned yn cael ei chyflawni'n ddigonol, ac mae angen gweithredu ar unwaith i amddiffyn plant ifanc, teithwyr a thrigolion rhag niwed. Anogwn yr awdurdodau perthnasol i gymryd y mater hwn o ddifrif a blaenoriaethu diogelwch y gymuned drwy osod teledu cylch cyfyng ar frys.

Llofnodi’r ddeiseb hon

244 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon