Deiseb Dylid darparu cymorth iechyd meddwl mwy amserol a hygyrch i blant o dan 10 mlwydd oed, gan gynnwys drwy atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
“Does dim rhagor o gymorth ar gael”
Mae hon yn frawddeg y bydd llawer o rieni plant o dan 10 mlwydd oed â phroblemau iechyd meddwl wedi’i chlywed sawl gwaith wrth geisio cael cymorth i'w plant.
Brawddeg yr wyf finnau wedi’i chlywed droeon, gan mai’r unig gymorth sydd ar gael i blant yw bod eu rhieni yn mynd i weithdai a grwpiau llesiant i rieni. Beth sydd ar gael i'r plant eu hunain? Dim byd.
Rhagor o fanylion
Mae gen i fab 5 mlwydd oed sydd wedi byw gyda gorbryder ers pan oedd yn ddwyflwydd oed. Mae hyn wedi arwain at ei fod wedi methu â mynychu darpariaeth gofal cyn-ysgol, meithrinfa ac yn fwy diweddar yr ysgol. Mae wedi cael ei atgyfeirio at asiantaethau lluosog, mae o dan law pediatregydd cymunedol, ond er hynny, nid oes dim cymorth o hyd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).
Ystyr hyn i mi, ac yntau, nawr yw ein bod heb unman i droi. Nid oes dim cynllun i'w helpu, a dim cefnogaeth o gwbl.
Rwy'n ysgrifennu'r ddeiseb hon gan fod angen i'r Llywodraeth ailfeddwl am y gwasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru. Mae angen iddi sicrhau bod ymyrraeth gynnar well ar gael i blant iau. Ni ddylent orfod dioddef am flynyddoedd nes iddynt gyrraedd brig eu gorbryder yn 10-11 mlwydd oed cyn y gallant gael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Ni ddylent fod yn cael cam o ran eu haddysg a chymdeithasu. Ni ddylai rhieni orfod gweld eu plant yn dioddef fel y maent am flynyddoedd, a gorfod brwydro yn erbyn system doredig i sicrhau bod lleisiau eu plant yn cael eu clywed.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd