Deiseb a wrthodwyd Codi’r trothwy incwm ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol i incwm realistig!
Mae Credyd Cynhwysol yn annog teuluoedd un rhiant i weithio ac ennill £892 neu fwy y mis. O’r herwydd, mae’r trothwy £7,400 neu lai er mwyn bod yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru yn rhy isel o lawer! Mae rhieni sengl a theuluoedd lle mae un rhiant yn gweithio yn yr un sefyllfa â’r rhai sydd ddim yn gweithio. Mae’n anodd dod o hyd i arian ar gyfer gwisg ysgol newydd bob blwyddyn, yn enwedig os oes gennych fwy nag un plentyn. Mae bwyd, nwy a thrydan a hanfodion bob dydd yn sylweddol ddrutach.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi