Deiseb Codi cerflun o Rachel Williams i goffáu’r effaith a gafodd ar addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg
Dechreuodd Rachel Williams ei gyrfa fel athrawes mewn ysgol Saesneg. Cafodd alwad ffôn , lle gofynnwyd iddi ddechrau gweithio drannoeth fel athrawes mewn meithrinfa Gymraeg.
Wrth ddechrau yn y rôl, clywodd y byddai swyddog addysg o'r enw Mr Angel yn ymweld â'r ysgol er mwyn profi Cymraeg y plant. Roedd rhai o'r plant yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith, ac felly nid oeddent yn gallu siarad Cymraeg. Dysgodd Rachel ychydig o Gymraeg i'r plant hyn, er mwyn iddynt allu pasio'r prawf a pheidio â gorfod gadael yr ysgol.
Dyfarnwyd MBE iddi flynyddoedd yn ddiweddarach, er mwyn diolch iddi am ei gwaith dros y Gymraeg yn y Barri a Bro Morgannwg.
Rhagor o fanylion
Heb waith Rachel Williams, ni fyddai’r Gymraeg wedi ffynnu cymaint yn y Barri a Bro Morgannwg.
Erbyn hyn, mae saith ysgol gynradd Gymraeg ym Mro Morgannwg, yn ogystal ag un ysgol uwchradd Gymraeg. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb Rachel Williams, gan mai dim ond plant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith fyddai wedi cael mynd i ysgolion Cymraeg.
Yn ogystal, i lawer o blant Ysgol Gymraeg Sant Baruc, byddai ein hunaniaeth yn wahanol gan na fyddem wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg.
Dylid codi cerflun o Rachel Williams yn y Barri er mwyn dathlu, coffáu a rhannu ei hanes a’r effaith aruthrol a gafodd ar y Gymraeg. A wyddoch chi mai dim ond pedwar cerflun o fenywod sydd yng Nghymru gyfan? Byddai cerflun o Rachel Williams yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i sefyll dros yr hyn sy’n iawn a thros y Gymraeg.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd