Deiseb Galluogi Prifysgol Caerdydd i gadw'r cwrs gradd Nyrsio
Mae bwriad Prifysgol Caerdydd i dorri'r rhaglen gradd nyrsio yn golled enfawr i ddyfodol nyrsio a'r GIG. Bydd y golled mewn staff yn cael effaith sylweddol ar astudiaethau myfyrwyr presennol. Yn 2023, rhaglen nyrsio Prifysgol Caerdydd oedd yr orau yng Nghymru, a’r bumed orau yn y DU. Nid torri’r cwrs yw’r ateb, ac nid yw hynny, ychwaith, er lles gorau gofal iechyd yng Nghymru. Mae angen cefnogi nyrsio i fod yn opsiwn hyfyw ar gyfer gradd, trwy gynnig gwell cyllid bwrsariaeth i fyfyrwyr.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd