Deiseb Ariannu addysg cerddoriaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng “ngwlad y gân”.

Mae cerddoriaeth yn rhan ddiymwad o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Mae ein corau, ein bandiau, ein cerddorfeydd a’n cwmnïau opera yn fyd-enwog, ac yn cyfrannu at frand rhyngwladol Cymru a’r economi twristiaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwersi offerynnol rhad ac am ddim wedi diflannu o'n hysgolion. Mae’r cynnig i fenthyg offeryn yn rhad ac am ddim wedi diflannu. Nawr, mae prifysgol fwyaf Cymru yn bwriadu cau ei hadran gerddoriaeth oherwydd pwysau ariannol.

Rhagor o fanylion

Mae cerddoriaeth yng Nghymru mewn argyfwng. Mae’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr yn ganlyniad uniongyrchol i ddirywiad cerddoriaeth ar lawr gwlad - os na all disgyblion yn yr ysgol ddysgu cerddoriaeth, ni allant symud ymlaen i'w hastudio yn y brifysgol.
Mae cerddoriaeth yn dysgu disgyblaeth, gwaith tîm, canolbwyntio a sut i berfformio, yn llythrennol, dan bwysau. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i ddatblygiad person ifanc, ni waeth p’un a fyddant yn mynd ymlaen i fod yn gerddorion proffesiynol ai peidio.
Mae Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd wedi hyfforddi rhai o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru, gan gynnwys Grace Williams, Alun Hoddinott a Karl Jenkins. Mae bellach yn wynebu storm berffaith a grëwyd gan ddinistrio addysg cerddoriaeth yn ein hysgolion, tanariannu addysg uwch yng Nghymru yn fwy cyffredinol, a cholli incwm gan fyfyrwyr rhyngwladol o ganlyniad i newidiadau i reoliadau fisa.
Mae angen strategaeth ar Gymru i ddiogelu cerddoriaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, i gadw ein lle fel grym byd-eang a chefnogi’r diwydiannau creadigol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

678 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon