Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno cap chwyddiant ar holl godiadau treth gyngor Awdurdodau Lleol yng Nghymru

Mae Awdurdodau Lleol fel mater o drefn yn cymhwyso codiadau y tu hwnt i chwyddiant i gyfraddau’r dreth gyngor tra’n lleihau gwasanaethau, yn aml i lenwi diffygion yn setliadau Llywodraeth Cymru, sy’n annheg ar deuluoedd sy’n gweithio. Mae hyn yn rhoi pwysau anghynaladwy ar gyllidebau cartrefi, gan gynyddu tlodi plant (blaenoriaeth y Rhaglen Lywodraethu).

Byddai cyfyngu ar godiadau i chwyddiant yn lleihau pwysau anghynaladwy ar gyllidebau cartrefi tra'n caniatáu codiadau teg yn gysylltiedig â chwyddiant i refeniw treth gyngor awdurdodau lleol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

286 llofnod

Dangos ar fap

10,000