Deiseb a gaewyd Helpu Prifysgol Caerdydd i gadw ei chyrsiau gradd Ieithoedd Modern

Mae Bwrdd Gweithredol Prifysgol Caerdydd yn cynnig cael gwared ar bob gradd Ieithoedd Modern. Bydd colli darpariaeth Ieithoedd Modern yng Nghaerdydd yn effeithio’n ddifrifol ar recriwtio myfyrwyr, bywyd myfyrwyr a phosibiliadau gradd, ac yn y pen draw bydd yn niweidio enw da’r Brifysgol a’i statws yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn niweidio dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac unrhyw gyfle i Gymry astudio graddau ieithoedd yn eu prifddinas.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud: ‘Ein gweledigaeth yw bod Cymru’n dod yn genedl wirioneddol amlieithog. Mae’n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ‘ehangu dysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion’. Rydym am gynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hanghenion.
‘Mae Cymru’n genedl hyderus, sy’n edrych tua’r dyfodol, a byddwn yn cefnogi ein holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Rydym am i’n holl ddysgwyr gyrraedd eu potensial llawn a phrofi'r manteision niferus sy’n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion drwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi’r sgiliau ieithyddol iddynt gystadlu yn yr economi fyd-eang.’
Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru 2022 i 2025 https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2023-11/atisn19152doc5a.pdf

Dylech gynnal hyn, a gwrthod colli rhaglenni gradd Ieithoedd Modern o’n prifddinas.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

2,531 llofnod

Dangos ar fap

10,000