Deiseb Rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru gael mesurydd dŵr

Mae trigolion rhai safleoedd cartrefi mewn parciau yng Nghymru yn talu dros £60 y mis mewn biliau dŵr, er eu bod yn byw mewn unedau sengl a dwbl bach. Ar hyn o bryd, mae llawer o berchnogion safleoedd yn rhannu cyfanswm eu bil â nifer y cartrefi yn y parc, cyn trosglwyddo'r bil i breswylwyr. Ystyr hyn yw nad oes dim cymhelliant i berchnogion safleoedd atgyweirio gollyngiadau, gan eu bod yn gwybod y bydd preswylwyr yn talu'r bil beth bynnag.
Gallai Llywodraeth Cymru atal yr anghyfiawnder hwn drwy roi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn parciau gael mesurydd dŵr.

Rhagor o fanylion

Byddai rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn parciau gael gosod mesurydd dŵr fel mai dim ond am eu defnydd unigol eu hunain y codir tâl arnynt yn adlewyrchu’r sefyllfa i’r mwyafrif o berchnogion tai ledled y wlad.
Byddai gwneud hynny yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi mewn parciau ond yn talu am yr hyn y maent yn ei ddefnyddio, gan roi diwedd ar yr anghyfiawnder sydd ar hyn o bryd pan godir tâl ar lawer o bobl am ollyngiadau nad ydynt yn gyfrifoldeb iddynt.
Byddai’r cam hwn hefyd yn wir yn gwneud cynnal a chadw pibellau a thrwsio gollyngiadau yn gyfrifoldeb perchennog y safle (fel y dylai fod), gan eu hannog i wneud gwaith atgyweirio ac uwchraddio.
Yn ei dro, byddai hyn yn lleihau’r difrod amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan lawer iawn o ddŵr yn gollwng o dan safleoedd cartrefi mewn parciau preifat yng Nghymru.
Mae preswylwyr cartrefi parc ar un safle yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru wedi wynebu tâl o fwy na £65 y mis am ddŵr gan berchennog eu safle, pan fo tystiolaeth yn awgrymu y dylent fod yn talu tua £16 y mis. Rhaid atal yr anghyfiawnder hwn.

Llofnodi’r ddeiseb hon

8 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon