Deiseb Mynd i'r afael â phryderon ynghylch llywodraethu, tryloywder, a chyllido Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru, "Gyda'n gilydd ni sy'n llunio stori Cymru," yw sefydliad diwylliannol pwysicaf Cymru. Mae’n arweinydd ym maes addysg a chyfranogiad diwylliannol, yn ysbrydoli pobl drwy ei hamgueddfeydd a'i chasgliadau. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Amgueddfa Cymru 2021-22, fodd bynnag, yn tynnu sylw at faterion sylweddol yn ymwneud â llywodraethu, tryloywder a chyllid, sy’n peri risgiau i weithrediad effeithiol a chynaliadwyedd hirdymor y sefydliad hwn.
Rhagor o fanylion
Mae’r adroddiad yn datgelu trefniadau llywodraethu anfoddhaol, oedi o ran argaeledd gwybodaeth hollbwysig, a phwysau cyllidebol yn arwain at golli swyddi a risgiau i gasgliadau cenedlaethol. Mae’r materion hyn, ynghyd â chau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddiweddar oherwydd problemau cynnal a chadw, yn codi pryderon am allu Amgueddfa Cymru i wasanaethu budd y cyhoedd a chyfrannu at dirwedd ddiwylliannol a threftadaeth Cymru.
Galwad i weithredu
Rydym ni, (y cyhoedd) sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd i:
Annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn yr adroddiad a chymryd y camau angenrheidiol i wella dulliau llywodraethu, tryloywder a chyllido Amgueddfa Cymru.
Sicrhau bod gan Amgueddfa Cymru yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arni i gyflawni ei chenhadaeth a chyfrannu at dirwedd ddiwylliannol a threftadaeth Cymru.
Hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd o ran rheoli Amgueddfa Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd