Deiseb Rhoi mesurau diogelwch ar waith ar gyffordd Rhos-goch ar yr A477 i leihau damweiniau ac atal unrhyw farwolaethau
Mae’r A477 o Sanclêr tua’r gorllewin i Sir Benfro yn ffordd brysur sy’n cael ei defnyddio gan drigolion lleol, traffig gwyliau, traffig y fferi a danfoniadau ledled y gorllewin.
Mae cyffordd Rhos-goch yn droad 90 gradd ar waelod bryd heb slipffordd. Y cyflymaf y gallwch droi yma yw 20mya, a hynny gyda thraffig y gefnffordd yn aml yn mynd 70mya y tu ôl i chi i lawr rhiw, a dim ffordd i symud oddi ar brif ran yr A477. Mae'n frawychus o beth.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wneud y gyffordd hon yn ddiogel cyn i fywydau gael eu colli.
Rhagor o fanylion
Byth ers i’r gyffordd agor yn 2014, mae trigolion lleol wedi ymgyrchu iddi gael ei gwella. Mae'r arwyddbost wedi cael ei daro sawl gwaith. Mae cerbydau wedi mynd trwy rwystrau damwain a glanio yn y ffos gyfagos. Hysbyswyd yr heddlu am wrthdrawiadau lluosog ac mae llawer mwy o achosion trwch blewyn y gwyddom amdanyn nhw. Mae gwaith monitro Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhagfyr 2021 wedi nodi bod 57% o gerbydau yn goryrru.
Mae gwleidyddion lleol blaenorol a phresennol wedi cefnogi ein hachos, ond ymateb Llywodraeth Cymru yw bod cyfraddau damweiniau o dan 60% o’r gyfradd nodweddiadol ar gyfer ffyrdd tebyg [o lythyr y Gweinidog ym mis Gorffennaf 2019].
Rydym o'r farn bod angen goleuo da ar y gyffordd - nid oes unrhyw oleuadau yno ar hyn o bryd - a mesurau lleihau cyflymder priodol wrth ddynesu at y gyffordd. Mewn gwirionedd, mae angen slipffordd yno hefyd fel y gall cerbydau arafu yn ddiogel wrth adael y brif ffordd.
Gofynnwn i chi gefnogi ein deiseb i wella diogelwch y rhan hon o’r ffordd.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd