Deiseb Gwahardd rhwydi plastig mewn tyweirch glaswellt yng Nghymru

Mae'r arfer o roi rhwydi plastig (neu plastic mesh netting) mewn tyweirch glaswellt wedi bod yn ddatblygiad cynyddol bryderus dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'n cael effaith ofnadwy ar ein hamgylchedd, gall arwain at fywyd gwyllt yn cael ei ddal yn y rhwydi pan fyddant yn dod yn amlwg ac mae'n rhywbeth, yn syml, nad oes ei angen.
Nid yw'r rhwydi plastig eu hunain byth yn diflannu, ond yn hytrach yn torri i lawr yn ronynnau microplastig llai a llai o faint, gan lygru ein pridd a rhyddhau'r cemegau sydd ynddynt.

Rhagor o fanylion

Mae rhai cynhyrchwyr tyweirch glaswellt yn defnyddio'r rhwydi plastig hyn i arbed arian iddyn nhw eu hunain gan y gallant godi'r tyweirch yn gynt, yn hytrach nag aros i'r system gwreiddio glaswellt i ymsefydlu'n llawn.
Yr hyn y maent yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw gosod plastig yn y pridd yn fwriadol ar adeg pan fo angen inni gymryd camau brys i leihau ein defnydd o blastigau untro.
Y diwydiant plastig yw'r ffynhonnell allyriadau hinsawdd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n creu tua 3.4% o allyriadau hinsawdd y byd, a rhagwelir y bydd yn codi i 19% erbyn 2040 os na fyddwn yn mynd i'r afael ag ef nawr.
Mae’r UK Turfgrass Grower Association wedi pleidleisio yn ddiweddar i wahardd rhwydi plastig mewn tyweirch gan ei chynhyrchwyr (a ddaw i rym o 31 Hydref 2026).
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth a diwygio rheoliadau tai i wahardd defnyddio’r dywarchen hon mewn datblygiadau tai newydd yng Nghymru.
https://www.dlf.co.uk/news/2025/january/tga-bans-plastic-netting-in-turfgrass-production

Llofnodi’r ddeiseb hon

7 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon