Deiseb Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau.
Mae Safle Tirlenwi’r Hafod wedi achosi gofid yn y gymuned ers 18 mlynedd, felly dyma’r ymgyrch amgylcheddol hiraf yng Nghymru. Er gwaethaf ymdrechion gan y trigolion a chynrychiolwyr etholedig, mae'r safle yn parhau i ollwng arogleuon niweidiol, ac mae’n creu niwsans statudol annerbyniol. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd, ac mae wedi methu â chymryd camau gorfodi ystyrlon, gan ddibynnu yn lle hynny ar gyfiawnhad technegol a sicrwydd amwys. Nid diffyg rheoleiddio yn unig yw hyn, ond methiant i lywodraethu.
Rhagor o fanylion
Yn 2024, cyrhaeddodd yr arogl a'r llygredd aer lefelau gofidus ac argyfyngus. Nid oedd teuluoedd yn gallu agor eu ffenestri, a gorfodwyd y plant i chwarae dan do. Os yw fframwaith rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i safle ollwng arogleuon hynod bwerus a chyson er eu bod yn parhau i gydymffurfio, yna mae’n amlwg nad yw’r rheoliadau yn addas i’r diben. Roedd eu Harolwg eu hunain diwethaf yn nodi methiannau allweddol fel injan nwy anweithredol, a oedd yn cynyddu’r nwyon tirlenwi a gâi eu rhyddhau. Capio dros dro ar gelloedd tirlenwi nad ydynt yn cynnwys yr arogleuon. Gollyngiadau cyson o fannau lluosog ar y safle. Oedi wrth uwchraddio’r seilwaith, sy’n arwain at fod y safle yn agored i ormod o allyriadau. Ym mis Mai 2020, dechreuodd tân sylweddol, a oedd yn llosgi am sawl diwrnod ac yn cynhyrchu mwg du trwchus. Cofnododd Cyfoeth Naturiol Cymru bryd hynny lefelau llygredd aer oedd 14 gwaith yn uwch na’r lefel a ganiateir. Os na all Cyfoeth Naturiol Cymru ddwyn Enovert i gyfrif, a’i fod wedi methu â gwneud hynny mewn 18 mlynedd, yna mae angen ymchwiliad annibynnol i’w effeithiolrwydd fel corff rheoleiddio ar frys.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd